UCAN Productions logo


instagram social link facebook social link twitter social link
Please scroll down for the Welsh language version of our newsletter

Hi everyone,
 
Welcome to our November newsletter.
 
We’ve had a busy October at UCAN, with Halloween fun bringing a little mischief and plenty of imagination to our sessions. It has been lovely to see everyone coming together across our groups and workshops.
 
Our UCAN Collective is now busy rehearsing two sketches for the upcoming Annual Wales Eyecare Conference, bringing together the skills and ideas we have been developing throughout the project. We have also come to the end of our UCAN Thrive pilot, which has been a wonderful opportunity to make new connections and share UCAN’s creative approach with more people.
 
Read on for our latest news and everything coming up this November. We look forward to seeing you soon!
 
The UCAN Productions Team


News & Updates

Halloween Fun
 
October was full of spooky surprises across UCAN Friday Nights, SASI, Maggie’s Club and UCAN Online. From creative activities to shared laughs, our sessions gave members plenty of chances to connect, have fun and enjoy the Halloween spirit together.
 
It was also lovely to welcome Allie John to SASI on 28 October. A huge thank you to everyone who joined in and to the team who helped make it such an enjoyable month!
UCAN Thrive: Creativity, Confidence and Connection
 
October marked the end of our UCAN Thrive pilot project. It has been a valuable opportunity to explore how UCAN’s creative, accessible approach can support older people with sight loss to build confidence, express themselves and connect with others.
 
It was lovely to return to Cowbridge for another session, see familiar faces and continue bringing people together through creativity and conversation. Across the pilot, we have learnt so much and made connections that we hope will continue to grow.
 
We look forward to building on what we have learnt and exploring opportunities for more work like this in the future.
 
A huge thank you to the Arts Council of Wales for funding UCAN Thrive, to Sight Cymru for their support, and to everyone who took part and shared their ideas and experiences with us.
UCAN Collective at the Annual Wales Eyecare Conference
 
UCAN Collective will be performing at the Annual Wales Eyecare Conference on Tuesday 10 November at Sophia Gardens, Cardiff.
 
This year’s conference explores the connections between health, social care and third sector support for people with sight loss, bringing together professionals, organisations and people with lived experience.
 
We will be sharing two sketches during the day. Our morning piece, ‘When it works, it works…’, explores independent living. In the afternoon, ‘AIStenders’—our own nod to EastEnders turns to Meta glasses and artificial intelligence.
 
These performances bring together the work we have been developing through UCAN Collective. From writing and storytelling to character development, improvisation and performance, we are drawing on the skills we have explored together to create original theatre shaped by our lived experiences as blind and partially sighted people.
 
We are proud of everyone involved and excited to share the results with the conference audience.
 
A huge thank you to the Welsh Government for supporting UCAN Collective through the Equalities and Inclusion Grant.
Music with Flo

Flo will be continuing with these fantastic after school music sessions on 4 November and 17 November in Caerphilly and 11 November and 25 November in Barry. Please email if your child is interested in attending florence@ucanproductions.org
A December Date for Your Diary
 
Please pencil in Saturday 5 December, 2:00pm–4:00pm, for our Maggie’s Club Christmas party!
 
We’re looking forward to some festive fun together, with Christmas jumpers and buffet-style food. We’ll share more details, including the venue, nearer the time.
GET INVOLVED

There are plenty of opportunities to join us this November. For more information about attending any of our sessions, please email info@ucanproductions.org.


Face to Face Workshops

UCAN Friday Nights
 
Join us for music, drama, storytelling, improvisation, games and plenty of laughs. Our Friday sessions are a lovely chance to get creative, catch up with friends and make new ones.
 
When: Fridays 6, 13, 20 and 27 November, 5:00pm–7:00pm
Where: School of Optometry and Vision Science, Cardiff University, Maindy Road, Cardiff CF24 4HQ
Who: All UCAN participants and their friends are welcome
 
SASI
 
Join the team at SightLife for sessions that develop confidence, vocal and self-advocacy skills through creativity, shared experiences and friendship.
 
When: Wednesdays 4, 11, 18 and 25 November, 11:30am–2:30pm
Where: SightLife, Jones Court, Womanby Street, Cardiff CF10 1BR
Who: Ages 18+

Maggie’s Club
 
Maggie’s Club is a welcoming space for young people with vision impairments and additional needs to explore creativity, express themselves and have fun together.
 
This month there will be a chance to create Christmas cards ready to send to friends and family.
 
When: Saturday 21 November, 2:00pm–3:30pm
 
Where: VENUE TO BE CONFIRMED
 
Please save the date. We are still working to secure a venue and will confirm the location as soon as possible. Please wait for confirmation before making travel arrangements.


Zoom Workshops

UCAN Online (Zoom)
 
Our online workshops bring together drama games, storytelling and creative activities, with plenty of opportunities to make friends and have fun. They are a great way to get involved if you cannot attend in person or would like to find out more about UCAN.
 
When: Tuesdays 3, 10, 17 and 24 November, 5:00pm–6:30pm
Where: Online via Zoom
Who: Visually impaired children and young people and their friends
 
Please email info@ucanproductions.org for more information.


How to Join

To join our free and fun workshops, please complete our online registration form.
 
Alternatively, email info@ucanproductions.org.
 
If you have already completed the registration form, you do not need to do it again.

Helo bawb.
 
Croeso i gylchlythyr mis Tachwedd.
 
Rydym wedi cael mis Hydref prysur yn UCAN, gyda hwyl Calan Gaeaf yn dod â pheth direidi a digon o ddychymyg i’n sesiynau. Mae wedi bod yn hyfryd gweld pawb yn dod at ei gilydd ar draws ein grwpiau a’n gweithdai.
 
Mae prosiect ‘UCAN Collective’ bellach yn brysur yn ymarfer dwy ddrama fer ar gyfer Cynhadledd Gofal Llygaid Flynyddol Cymrul; mae hyn yn dod â’r sgiliau a’r syniadau rydym wedi bod yn eu datblygu drwy gydol y prosiect at ei gilydd. Rydym hefyd wedi cyrraedd diwedd ein cynllun peilot ‘UCAN Thrive’, sydd wedi bod yn gyfle gwych i greubcysylltiadau newydd a rhannu dull creadigol UCAN gyda mwy o bobl.
 
Cariwch mlaen i ddarllen i gael y newyddion diweddaraf a gwybodaeth am bopeth sydd ar y gweill y mis Tachwedd hwn. Edrychwn ymlaen at eich gweld yn fuan!
 
Tîm UCAN Productions


NEWYDDION A DIWEDDARIADAU

Hwyl Calan Gaeaf
 
Roedd mis Hydref yn arswydus o hwyl ar draws sesiynau Nos Wener UCAN, SASI, Clwb Maggie ac UCAN Ar-lein. O weithgareddau creadigol i chwerthin gyda’n gilydd, rhoddodd ein sesiynau lawer o gyfleoedd i aelodau gysylltu, i gael hwyl a mwynhau ysbryd Calan Gaeaf gyda’i gilydd.
 
Roedd hi hefyd yn braf iawn croesawu Allie John i SASI ar 28 Hydref. Diolch enfawr i bawb a gymerodd ran, ac i’r tîm a helpodd i wneud y mis mor wych!
UCAN Thrive: Creadigrwydd, Hyder a Chysylltiad
 
Daeth mis Hydref â diwedd i’n prosiect peilot, UCAN Thrive. Roedd yn gyfle gwerthfawr i archwilio sut y gall dull creadigol a hygyrch UCAN helpu pobl hŷn sydd â cholled golwg i feithrin hyder, mynegi eu hunain, a chysylltu ag eraill.
 
Roedd yn braf dychwelyd i’r Bontfaen ar gyfer sesiwn arall, gweld wynebau cyfarwydd, a pharhau i ddod â phobl ynghyd trwy greadigrwydd a sgwrsio. Trwy gydol y prosiect peilot, rydym wedi dysgu cymaint ac wedi creu cysylltiadau rydym yn gobeithio bydd yn parhau i dyfu.
 
Edrychwn ymlaen at adeiladu ar yr hyn rydym wedi’i ddysgu, ac archwilio cyfleoedd ar gyfer mwy o waith tebyg yn y dyfodol.
 
Diolch enfawr i Gyngor Celfyddydau Cymru am ariannu UCAN Thrive, i Sight Cymru am eu cefnogaeth, ac i bawb a gymerodd ran ac a rannodd eu syniadau a’u profiadau gyda ni.
UCAN Collective yng Nghynhadledd Flynyddol Gofal Llygaid Cymru
 
Bydd UCAN Collective yn perfformio yng Nghynhadledd Flynyddol Gofal Llygaid Cymru ar ddydd Mawrth 10 Tachwedd yng Ngerddi Soffia yng Nghaerdydd.
 
Mae cynhadledd eleni yn archwilio’r cysylltiadau rhwng iechyd, gofal cymdeithasol a chymorth y trydydd sector i bobl sydd wedi colli eu golwg, gan ddod â gweithwyr proffesiynol, sefydliadau a phobl sydd â phrofiad bywyd o’r cyflwr at ei gilydd.
 
Byddwn yn cyflwyno dau ddarn byr yn ystod y dydd. Mae ein darn ar gyfer y bore, ‘When it works, it works…’, yn archwilio byw’n annibynnol. Yn y prynhawn, mae ‘AIStenders’ – ein fersiwn ni o EastEnders – yn troi at sbectolau Meta a deallusrwydd artiffisial. Mae’r perfformiadau hyn yn dod â’r gwaith rydym wedi bod yn ei ddatblygu drwy UCAN Collective ynghyd.
 
O ysgrifennu ac adrodd straeon i ddatblygu cymeriadau, byrfyfyr a pherfformio, rydym yn defnyddio’r sgiliau rydym wedi’u harchwilio gyda’n gilydd i greu theatr wreiddiol, wedi’i llunio gan ein profiadau bywyd fel pobl ddall neu rannol ddall.
 
Rydym yn falch o bawb sy’n cymryd rhan, ac yn gyffrous i rannu’r gwaith â chynulleidfa’r gynhadledd.
 
Diolch enfawr i Lywodraeth Cymru am gefnogi UCAN Collective drwy’r Grant Cydraddoldeb a Chynhwysiant.
Cerddoriaeth gyda Flo
 
Bydd Flo yn parhau â'r sesiynau cerddoriaeth ar ôl ysgol gwych hyn ar y 4ydd a'r 17eg o Dachwedd yng Nghaerffili, ac ar yr 11eg a'r 25ain o Dachwedd yn y Barri. Anfonwch e-bost at florence@ucanproductions.org os oes gan eich plentyn ddiddordeb mewn mynychu.
Dyddiad pwysig i'r dyddiadur
 
Cadwch y dyddiad – Dydd Sadwrn 5 Rhagfyr, 2:00yp–4:00yp – ar gyfer p
 
Parti Nadolig Clwb Maggie!
 
Rydym yn edrych ymlaen at gael hwyl yr Ŵyl gyda’n gilydd. Cofiwch wisgo siwmper Nadolig, a bydd bwyd ar ffurf bwffe. Byddwn yn rhannu mwy o fanylion, gan gynnwys y lleoliad, yn nes at yr amser.
CYMERYD RHAN
 
Mae digon o gyfleoedd i ymuno â ni fis Tachwedd yma. I gael rhagor o wybodaeth am fynychu unrhyw un o'n sesiynau, anfonwch e-bost at info@ucanproductions.org
Nos Wener UCAN
 
Ymunwch â ni am gerddoriaeth, drama, adrodd straeon, byrfyfyr, gemau a digon o chwerthin. Mae ein sesiynau nos Wener yn gyfle gwych i fod yn greadigol, dal i fyny â ffrindiau a gwneud ffrindiau newydd.
 
Pryd: Dydd Gwener 6, 13, 20 a 27 Tachwedd, 5:00yp–7:00yp
Ble: Ysgol Optometreg a Gwyddorau'r Golwg, Prifysgol Caerdydd, Maindy Road, Caerdydd CF24 4HQ
Pwy: Croeso i holl aelodau UCAN a'u ffrindiau
 
SASI
 
Ymunwch â'r tîm yn SightLife ar gyfer sesiynau sy'n datblygu hyder, sgiliau lleisio a hunan-eiriolaeth trwy greadigrwydd, profiadau a rennir a chyfeillgarwch.
 
Pryd: Dydd Mercher 4, 11, 18 a 25 Tachwedd, 11:30am–2:30pm
Ble: SightLife, Jones Court, Womanby Street, Caerdydd CF10 1BR
Pwy: 18 oed a hÅ·n
 
Clwb Maggie
 
Mae Clwb Maggie yn sesiwn croesawgar i bobl ifanc sydd â nam ar eu golwg ac anghenion ychwanegol, lle gallant archwilio creadigrwydd, mynegi eu hunain a chael hwyl gyda’i gilydd.
 
Y mis hwn, bydd cyfle i greu cardiau Nadolig, yn barod i’w hanfon at ffrindiau a theulu.
 
Pryd: Dydd Sadwrn 21 Tachwedd, 2:00yp–3:30yp
Ble: LLEOLIAD I’W GADARNHAU
Cadwch y dyddiad. Rydym yn dal i geisio sicrhau lleoliad a byddwn yn cadarnhau cyn gynted â phosibl.
 
Arhoswch am gadarnhad cyn gwneud trefniadau teithio.


GWEITHGAREDDAU ZOOM

UCAN Arlein (Zoom)
 
Mae ein gweithdai ar-lein yn cyfuno gemau drama, adrodd straeon a gweithgareddau creadigol, gyda digon o gyfleoedd i wneud ffrindiau a chael hwyl. Maent yn ffordd wych o gymryd rhan os na allwch fynychu'n bersonol, neu os hoffech wybod mwy am UCAN.
 
Pryd: Dydd Mawrth 3, 10, 17 a 24 Tachwedd, 5:00yp–6:30yp
Ble: Ar-lein trwy Zoom
Pwy: Plant a phobl ifanc â nam ar eu golwg, a'u ffrindiau Anfonwch e-bost at info@ucanproductions.org am ragor o wybodaeth.


SUT I YMUNO

I ymuno â’n gweithdai hwyliog sy'n rhad ac am ddim, llenwch ein ffurflen gofrestru ar-lein.
 
Fel arall, anfonwch e-bost at info@ucanproductions.org
 
Os ydych eisoes wedi llenwi’r ffurflen gofrestru, nid oes angen i chi ei llenwi eto.
 Unsubscribe
EmailOctapus
PO Box 290
Cardiff
CF11 1NF
United Kingdom