Introducing Our Steering Committee Chairs
As part of our new UCAN 2 Network, we’re excited to be launching a Steering Committee made up of UCAN members who will help shape the future of the organisation.
The Steering Committee will play an important role in making sure the voices of blind and partially sighted young people are at the heart of UCAN’s work. Members will have the chance to share ideas, help guide projects, and influence the opportunities we offer across Wales.
We’re delighted to introduce our two Steering Committee Chairs, Emma and Samih. Both have been part of the UCAN community and bring valuable experience, creativity, and insight to the role.
|
|
Emma
My name is Emma, I am 35. I lost my sight seven years ago due to a horse riding accident. I joined UCAN at the end of 2019. Since then I have grown in confidence and gained independence through attending UCAN sessions and workshops. I have been a part of a number of performances advocating and raising awareness of being blind/visually impaired. I’ve been part of a number of Wales Eye Care Conference performances, took part in the TIP project, alongside other performances and panels to raise awareness and help educate professionals and the public about life as a blind person.
Through my work with the Steering Committee as a Chair, I hope to achieve being a voice for blind and visually impaired young people. I’d like to be able to listen to what they would like to do within UCAN and help make what they want a reality. I would like people to feel like they can come and talk to me about anything they are feeling, whether it be something big or small, and to give them the confidence and reassurance that their voices are being heard and taken seriously. I would love to help create a fun, inclusive and safe place which is motivated by the members, for the members, where members can come and enjoy themselves whilst building on their confidence and independence.
|
|
Samih
Hello UCAN community!
My name is Samih and I am a co chair of the UCAN steering Group. I am 21 and I’ll be turning 22 on the 18th of March, I am completely blind and I am a passionate and dedicated lover of music and drama. I’ve been with UCAN as a participant since July 2021 even though it feels like it has been a longer period of time than that.
It brings me such joy and happiness too be a part of UCAN and I’m grateful for the opportunity to work with Emma, Jane and all of you to take UCAN forward. 🙂
|
HEIW Conference Performance
Rehearsals are in full swing as UCAN members prepare for a special performance at the HEIW Conference later this month. The piece is a comedy that explores some of the barriers blind and visually impaired people face in everyday life. Through humour and parody, the group will be bringing real experiences to the stage while sharing an honest look at the challenges our community still navigates.
UCAN’s Associate Director, Jake, said: “We’re exploring barriers the group face through comedy. We’re parodying some well-known TV shows to give the audience a variety of things we have to negotiate with every day – from taxi refusals to how AI glasses are helping our community. We’re here to raise awareness and make people think.” We can’t wait to share more about the performance soon.
|
Get Involved
Join UCAN Productions for Face to Face Workshops and online sessions. Unleash your creativity with experienced workshop leaders and make new friends along the way.
|
UCAN Friday Nights Join us for creative sound and music sessions, drama, and games on Friday evenings! If you're aged 7-25, there are exciting opportunities to work towards an Arts Award with our fantastic team.
This weekly session isn't just about honing your artistic skills—it's also a perfect chance to catch up with old friends and make new ones, all while having fun!
For more information on attending, please reach out to info@ucanproductions.org. You can also stay updated by checking our social media channels for the latest updates and exciting news. Come join the fun!
For more information on attending, please reach out to info@ucanproductions.org. You can also stay updated by checking our social media channels for the latest updates and exciting news. Come join the fun!
When: Friday 6th, 13th, 20th and 27th March 5:00pm - 7:00pm Where: School of Optometry and Vision Science, Cardiff University, Maindy Rd, Cardiff CF24 4HQ Who: All UCAN participants welcome
SASI Come and join the team at the wonderful Sight Life Centre in Cardiff, Sessions aim to develop confidence, vocal and self-advocacy skills whilst making friends and having fun.
When: Wednesday 11th, 18th and 25th March 11.30am - 2.30pm at SightLife, Jones Court, Womanby Street, Cardiff CF10 1BR Who: 18+ years old
Maggie’s Club In honour of our beloved UCAN Board Member, Dr. Margaret "Maggie" Woodhouse OBE, we're inviting you to a super fun, once-a-month event! Dive into drama games, sound workshops, arts and crafts and circus skills. Perfect for young people with vision impairments and additional needs, this is a safe and welcoming space where everyone can express themselves and have fun. Come join the Maggies Club family!
When: Saturday 14th March 2:00pm - 3:30pm Where: School of Optometry and Vision Science, Cardiff University, Maindy Rd, Cardiff CF24 4HQ Who: Children and young people who are vision impaired with additional needs
Barry & Caerphilly After-School Sessions Our sessions in Barry and Caerphilly are so much fun and a chance to get creative and make friends after school. We use the microphones to record silly sounds and stories, and we play lots of drama games.
When: Barry on Wednesday 18th March & Caerphilly on Wednesday 25th of March at 4pm Who: Visually impaired children and young people and their friends
|
UCAN Online
Have fun and learn new skills through drama. A popular group with lots of drama games, creative and storytelling activities. These workshops are all about making new friends and having tons of fun through activities including storytelling and improvisation.These workshops are particularly beneficial for those who cannot attend face to face workshops or are keen to learn more about UCAN.
When: Tuesday 10th, 17th, 24th and 31st March 5:00pm - 6:30pm Who: ages 10-18
|
If you’ve previously filled out the registration form you won’t need to do it again.
If you are a parent who would like your child to join some free and fun workshops, please complete our online registration form by clicking here!
If you are 18 years and older please complete the form by clicking here
|
Helo bawb,
Gobeithio bod pawb wedi cael Dydd Gŵyl Dewi hyfryd ac yn hapus i weld bod gwanwyn ar y ffordd. Mae'r haul yn dechrau dod allan ac mae wedi bod yn wych gweld llawer o egni a chreadigrwydd yn parhau ar draws sesiynau UCAN. Rydym yn paratoi ar gyfer perfformiad cynhadledd cyffrous ar ddiwedd mis Mawrth, lle bydd rhai o'n haelodau yn rhannu eu gwaith a'u profiadau.
Ochr yn ochr â hynny, mae gennym ddigon o'n gweithdai hwyl arferol yn digwydd drwy gydol y mis, felly darllenwch isod i weld beth sydd ar ddod a sut allwch chi gymryd rhan.
Diolch yn fawr iawn am y gefnogaeth barhaus gan ein cymuned, cyllidwyr a ffrindiau. Dyna beth sydd yn gwneud popeth a wnawn yn bosibl. Gwelwn ni chi cyn bo hir,
Tîm UCAN ☀️
|
Cyflwyno Cadeiryddion ein Pwyllgor Llywio
Fel rhan o'n Rhwydwaith UCAN 2 newydd, rydym yn gyffrous i lansio Pwyllgor Llywio sy'n cynnwys aelodau UCAN a fydd yn helpu i lunio dyfodol y sefydliad. Bydd y Pwyllgor Llywio yn chwarae rhan bwysig wrth sicrhau bod lleisiau pobl ifanc ddall a rhannol ddall wrth wraidd gwaith UCAN. Bydd cyfle gan aelodau i rannu syniadau, helpu i arwain prosiectau, a dylanwadu ar y cyfleoedd a gynigiwn ledled Cymru.
Rydym yn falch iawn o gyflwyno Cadeiryddion y Pwyllgor Llywio, Emma a Samih. Mae'r ddau wedi bod yn rhan o gymuned UCAN ac yn dod â phrofiad, creadigrwydd a mewnwelediad gwerthfawr i'r rôl.
|
|
Emma
Fy enw i yw Emma, rwy'n 35 oed. Collais fy ngolwg saith mlynedd yn ôl oherwydd damwain marchogaeth. Ymunais ag UCAN ar ddiwedd 2019. Ers hynny rwyf wedi tyfu mewn hyder ac wedi ennill annibyniaeth trwy fynychu sesiynau a gweithdai UCAN. Rwyf wedi bod yn rhan o nifer o berfformiadau sy'n edrych ar eiriolaeth ac sy'n codi ymwybyddiaeth o fod yn ddall / â nam golwg. Dwi wedi bod yn rhan o sawl perfformiad yng Nghynhadledd Gofal Llygaid Cymru, wedi cymryd rhan ym mhrosiect TIP, ochr yn ochr â pherfformiadau a phaneli eraill i godi ymwybyddiaeth a helpu i addysgu gweithwyr proffesiynol a'r cyhoedd am fywyd fel person dall.
Trwy fy ngwaith gyda'r Pwyllgor Llywio fel Cadeirydd, rwy'n gobeithio bod yn lais i bobl ifanc ddall a phobl â nam golwg. Hoffwn allu gwrando ar beth hoffent wneud o fewn UCAN a helpu i wireddu'r hyn mae nhw eisiau. Gobeithio bydd pobl yn dod i siarad â mi am unrhyw beth mae nhw'n ei deimlo, boed yn rhywbeth mawr neu fach, a rhoi'r hyder a'r sicrwydd iddyn nhw fod eu lleisiau'n cael eu clywed a'u cymryd o ddifrif. Hoffwn i helpu i greu lle hwyliog, cynhwysol a diogel sy'n cael ei ysgogi gan yr aelodau, ar gyfer yr aelodau, lle gall aelodau ddod a mwynhau eu hunain wrth adeiladu ar eu hyder a'u hannibyniaeth.
|
|
Samih
Helo gymuned UCAN!
Fy enw i yw Samih ac rwy'n gyd-gadeirydd Grŵp llywio UCAN. Rwy'n 21 oed a byddaf yn troi'n 22 ar Fawrth 18fed, rwy'n hollol ddall ac rwy'n hoff iawn o gerddoriaeth a drama. Rwyf wedi bod gydag UCAN fel aelod ers Gorffennaf 2021 er ei fod yn teimlo fel ei fod wedi bod yn gyfnod hirach na hynny. Mae bod yn rhan o UCAN yn dod â chymaint o lawenydd a hapusrwydd i mi ac rwy'n ddiolchgar am y cyfle i weithio gydag Emma, Jane a chi gyd i symud UCAN ymlaen. 🙂
|
Perfformiad Cynhadledd HEIW
Mae aelodau UCAN yn brysur iawn yn ymarfer a pharatoi ar gyfer perfformiad arbennig yng Nghynhadledd HEIW yn ddiweddarach y mis hwn. Mae'r darn yn gomedi sy'n archwilio rhai o'r rhwystrau y mae pobl ddall a phobl â nam golwg yn eu hwynebu ym mywyd bob dydd. Trwy hiwmor a pharodi, bydd y grŵp yn dod â phrofiadau go iawn i'r llwyfan wrth rannu golwg onest ar yr heriau y mae ein cymuned yn dal i'w wynebu.
Dywedodd Cyfarwyddwr Cysylltiol UCAN, Jake:
“Rydym yn archwilio'r rhwystrau y mae'r grŵp yn eu hwynebu trwy gomedi. Rydym yn creu parodi o sioeau teledu adnabyddus i roi syniad i'r gynulleidfa o'r amrywiaeth o bethau mae'n rhaid i ni ddelio gyda nhw bob dydd - o wrthodiadau tacsis i sut mae sbectol AI yn helpu ein cymuned. Rydym yma i godi ymwybyddiaeth a gwneud i bobl feddwl.”
Allwn ni ddim aros i rannu mwy am y perfformiad yn fuan.
|
Nosweithiau Gwener UCAN
Nosweithiau Gwener UCAN Ymunwch â ni am sesiynau sain a cherddoriaeth greadigol, drama, a gemau ar nosweithiau Gwener! Os ydych chi rhwng 7 a 25 oed, mae cyfleoedd cyffrous i weithio tuag at wobr/ Celt Arts Award gyda'n tîm gwych.
Nid yw'r sesiwn wythnosol hon yn ymwneud â datblygu sgiliau artistig yn unig—mae hefyd yn gyfle perffaith i ddal i fyny â hen ffrindiau a gwneud rhai newydd, a hynny i gyd wrth gael hwyl!
Am ragor o wybodaeth am fynychu, cysylltwch ag info@ucanproductions.org. Gallwch hefyd gael y wybodaeth ddiweddaraf trwy wirio ein sianeli cyfryngau cymdeithasol am y newyddion diweddaraf. Dewch i ymuno â'r hwyl!
Pryd: Dydd Gwener 6ed, 13eg, 20fed, a 27ain Mawrth 5:00pm - 7:00pm Ble: Ysgol Optometreg a Gwyddorau'r Golwg, Prifysgol Caerdydd, Heol Maendy, Caerdydd CF24 4HQ Pwy: Croeso i bob aelod o UCAN
SASI Dewch i ymuno â'r tîm yn SightLife yng Nghaerdydd. Nod y sesiynau yw datblygu hyder, sgiliau lleisiol a hunan-eiriolaeth wrth wneud ffrindiau a chael hwyl. Rydym wrthi'n dechrau gweithio ar berfformiad ar gyfer cynhadledd Wales Eyecare Conference 2025.
Pryd: Dydd Mercher 11eg, 18fed a 25ain Mawrth 11.30am - 2.30pm yn SightLife, Jones Court, Womanby Street, Caerdydd CF10 1BR Pwy: 18+ oed
Clwb Maggie's Club Er anrhydedd i aelod Bwrdd annwyl UCAN, Dr. Margaret "Maggie" Woodhouse OBE, rydym yn eich gwahodd i ddigwyddiad hwyliog iawn, unwaith y mis! Cyfle i brofi gemau drama, gweithdai sain, celf a chrefft a sgiliau syrcas. Yn berffaith ar gyfer pobl ifanc â nam ar eu golwg ac anghenion ychwanegol, mae hwn yn le diogel a chroesawgar lle gall pawb fynegi eu hunain a chael hwyl. Dewch i ymuno â theulu Clwb Maggie's Club!
Pryd: Dydd Sadwrn 14eg Mawrth 2:00pm - 3:30pm Ble: Ysgol Optometreg a Gwyddorau'r Golwg, Prifysgol Caerdydd, Heol Maendy, Caerdydd CF24 4HQ Pwy: Plant a phobl ifanc sydd â nam ar eu golwg ac anghenion ychwanegol
Sesiynau Ar-ôl-Ysgol y Barri a Chaerffili Mae ein sesiynau yn y Barri a Chaerffili yn gymaint o hwyl ac yn gyfle i fod yn greadigol a gwneud ffrindiau ar ôl ysgol. Rydym yn defnyddio'r meicroffonau i recordio synau a straeon gwirion, ac yn chwarae llawer o gemau drama.
Pryd: Y Barri ar ddydd Mercher 18 Mawrth a Chaerffili ar ddydd Mercher 25 Mawrth am 4pm Pwy: Plant a phobl ifanc â nam ar eu golwg a'u ffrindiau
|
UCAN Arlein
Mwynhewch a dysgwch sgiliau newydd trwy ddrama. Grŵp poblogaidd gyda llawer o gemau drama, gweithgareddau creadigol ac adrodd straeon. Mae'r sesiynau hyn yn gyfle i wneud ffrindiau newydd a chael llawer o hwyl trwy weithgareddau sy'n cynnwys creu straeon a byrfyfyr. Mae'r sesiynau hyn yn arbennig o fuddiol i'r rheiny sydd methu mynychu gweithgareddau wyneb yn wyneb neu sydd am ddysgu mwy am UCAN.
Pryd: Dydd Mawrth 10fed, 17eg, 24ain a 31ain Mawrth 5:00pm - 6:30pm Pwy: oedrannau 10-18
|
Os ydych wedi llenwi'r ffurflen gofrestru yn flaenorol, ni fydd angen i chi ei lenwi eto. Os ydych yn rhiant sydd eisiau i'ch plentyn ymuno â’n gweithgareddau hwyliog sy’n rhad ac am ddim, cwblhewch ein ffurflen gofrestru ar-lein drwy glicio yma! Os ydych yn 18 oed neu'n hŷn, cwblhewch y ffurflen drwy glicio yma.
|
PO Box 290 Cardiff CF11 1NF United Kingdom
|
|
|
|