Easter Holiday Sessions
We’re excited to be running our Easter Holiday Sessions this April, giving everyone the chance to get creative, try something new and spend time together during the break.
These sessions will be running alongside our usual SASI, Maggie’s Club and Friday night sessions, so there are plenty of opportunities to get involved across the programme.
When? Thursday 2nd and 9th of April 10.30am to 2.30pm Where? SightLife, Womanby Street, Cardiff Who? These sessions are open to all ages and will be led by Alex and Gwennan, focusing on music, sound and games in a fun and relaxed environment. We’d love to see as many of you there as possible.
|
|
HEIW Optometry Conference Performance
Here’s a little look behind the scenes of our recent performance at the HEIW Optometry Conference.
At UCAN, we don’t just perform. We bring lived experience into the room, sharing real stories, real voices and honest insight into what it means to navigate eye care and accessibility.
These moments matter. They spark conversations, challenge assumptions and help shape better services for the future. A huge thank you to HEIW for having us and for making space for our voices. If you’re planning a conference or event and are looking for something that connects, challenges and genuinely engages, this is something we offer.
Video description 4 people being interviewed wearing UCAN T shirts, cut with clips from the performance showing 5 actors wearing UCAN T shirts performing in a conference space.
|
|
First aid training
We took part in first aid training last week, and it was such a brilliant session. A huge thank you to Proactive first aid solutions for delivering a course that was fully accessible and adapted to how we experience the world. From recognising breathing sounds to learning CPR and AED placement through touch, it was practical, clear and genuinely empowering. It shows that first aid is for everyone when it’s taught in the right way. Thank you for having us and for making space for our way of learning.
|
Get Involved
Join UCAN Productions for Face to Face Workshops and online sessions. Unleash your creativity with experienced workshop leaders and make new friends along the way.
|
UCAN Friday Nights Join us for creative sound and music sessions, drama, and games on Friday evenings! If you're aged 7-25, there are exciting opportunities to work towards an Arts Award with our fantastic team.
This weekly session isn't just about honing your artistic skills—it's also a perfect chance to catch up with old friends and make new ones, all while having fun!
For more information on attending, please reach out to info@ucanproductions.org. You can also stay updated by checking our social media channels for the latest updates and exciting news. Come join the fun!
For more information on attending, please reach out to info@ucanproductions.org. You can also stay updated by checking our social media channels for the latest updates and exciting news. Come join the fun!
We are extremely pleased that Alys will be joining us on 10th April!
When: Friday 10th, 17th and 24th of April 5:00pm - 7:00pm Where: School of Optometry and Vision Science, Cardiff University, Maindy Rd, Cardiff CF24 4HQ Who: All UCAN participants welcome
SASI Come and join the team at the wonderful Sight Life Centre in Cardiff, Sessions aim to develop confidence, vocal and self-advocacy skills whilst making friends and having fun.
We are very excited that Alys will be joining us on 1st and 8th April!
On 15th April we will be meeting at the Royal Welsh College of Music and Drama to take part in a workshop linked to the new production of Under Milk Wood. Get in touch for more details.
When: Wednesday 1st, 8th, 15th, 22nd and 29th of April 11.30am - 2.30pm Where: SightLife, Jones Court, Womanby Street, Cardiff CF10 1BR Who: 18+ year olds
Maggie’s Club In honour of our beloved UCAN Board Member, Dr. Margaret "Maggie" Woodhouse OBE, we're inviting you to a super fun, once-a-month event! Dive into drama games, sound workshops, arts and crafts and circus skills. Perfect for young people with vision impairments and additional needs, this is a safe and welcoming space where everyone can express themselves and have fun. Come join the Maggies Club family!
When: Saturday 11th of April 2:00pm - 3:30pm Where: School of Optometry and Vision Science, Cardiff University, Maindy Rd, Cardiff CF24 4HQ Who: Children and young people who are vision impaired with additional needs
|
UCAN Online
Have fun and learn new skills through drama. A popular group with lots of drama games, creative and storytelling activities. These workshops are all about making new friends and having tons of fun through activities including storytelling and improvisation.These workshops are particularly beneficial for those who cannot attend face to face workshops or are keen to learn more about UCAN.
When: Tuesday 7th, 14th, 21st and 28th of April 5:00pm - 6:30pm Who: ages 10-18
|
If you’ve previously filled out the registration form you won’t need to do it again.
If you are a parent who would like your child to join some free and fun workshops, please complete our online registration form by clicking here!
If you are 18 years and older please complete the form by clicking here
|
Helo bawb,
Gobeithio eich bod chi gyd wedi cael dechrau hyfryd i fis Ebrill ac yn mwynhau'r dyddiau hirach a'r nosweithiau mwy disglair.
Mae digon o weithgareddau Pasg hwyliog a chreadigol gyda ni ar y gweill y mis hwn, felly mae llawer i edrych ymlaen ato a chymryd rhan ynddo.
Rydym hefyd yn falch iawn o rannu bod ein perfformiad yn nigwyddiad HEIW wedi mynd yn dda iawn. Rydym mor falch o bawb a gymerodd ran, a gallwch ddarllen mwy amdano isod.
Ochr yn ochr â hynny, mae ein holl weithdai arferol yn parhau drwy gydol y mis, felly darllenwch isod i weld beth sydd ar y gweill.
Rydym yn falch iawn y bydd ein ffrind hyfryd Alys yn ymuno â ni ar gyfer rhai o'n gweithgareddau dros wyliau'r Pasg. Bu Alys yn gweithio gydag UCAN am nifer o flynyddoedd, ac rydym i gyd yn gyffrous iawn i'w gweld!
Diolch, fel bob amser, am y gefnogaeth barhaus gan ein cymuned, cyllidwyr a ffrindiau. Mae wir yn gwneud popeth a wnawn yn bosibl.
Gwelwn ni chi cyn bo hir,
Tîm UCAN Productions
|
Sesiynau Gwyliau'r Pasg
Rydym wrth ein bodd ein bod yn cynnal Sesiynau Gwyliau'r Pasg ym mis Ebrill, gan roi cyfle i bawb fod yn greadigol, rhoi cynnig ar rywbeth newydd a threulio amser gyda'n gilydd yn ystod y gwyliau. Bydd y sesiynau hyn yn rhedeg ochr yn ochr â sesiynau arferol SASI, Clwb Maggie a Sesiwn Nos Wener, felly mae digon o gyfleoedd i gymryd rhan ar draws y gwyliau.
Pryd? Dydd Iau 2 a 9 Ebrill 10.30am i 2.30pm Ble? SightLife, Stryd Womanby, Caerdydd Pwy? Mae'r sesiynau hyn ar agor i bob oed a byddant yn cael eu harwain gan Alex a Gwennan, gan ganolbwyntio ar gerddoriaeth, sain a gemau mewn amgylchedd hwyliog a hamddenol.
Byddem wrth ein bodd yn gweld cymaint ohonoch chi yno â phosibl.
|
|
Perfformiad Cynhadledd Optometreg HEIW
Dyma gipolwg bach y tu ôl i'r llenni o’n perfformiad diweddar yng Nghynhadledd Optometreg HEIW. Yn UCAN, nid perfformio yn unig rydym ni yn ei wneud. Rydym yn dod â phrofiad bywyd i'r ystafell, gan rannu straeon go iawn, lleisiau go iawn a mewnwelediad gonest i'r hyn y mae'n ei olygu i lywio trwy agweddau gwahanol o ofal llygaid a hygyrchedd.
Mae'r digwyddiadau hyn yn bwysig. Maent yn sbarduno sgyrsiau, yn herio rhagdybiaethau ac yn helpu i lunio gwasanaethau gwell ar gyfer y dyfodol. Diolch yn fawr iawn i HEIW am ein cael ni ac am wneud lle i'n lleisiau. Os ydych chi'n cynllunio cynhadledd neu ddigwyddiad ac yn chwilio am rywbeth sy'n cysylltu, yn herio a sy’ wirioneddol yn ymgysylltu, dyma beth rydym yn ei gynnig.
Disgrifiad fideo 4 o bobl yn cael eu cyfweld yn gwisgo crysau-T UCAN, gyda chlipiau o'r perfformiad yn dangos 5 actor yn gwisgo crysau-T UCAN yn perfformio mewn cynhadledd.
|
|
Hyfforddiant cymorth cyntaf
Fe wnaethon ni gymryd rhan mewn hyfforddiant cymorth cyntaf yr wythnos diwethaf, ac roedd yn sesiwn mor wych.
Diolch yn fawr iawn i Proactive am gyflwyno cwrs a oedd yn gwbl hygyrch ac wedi'i addasu i sut rydym yn profi'r byd. O adnabod synau anadlu i ddysgu CPR a lleoli AED trwy gyffwrdd, roedd yn ymarferol, yn glir ac yn wirioneddol rymusol. Mae'n dangos bod cymorth cyntaf ar gyfer pawb pan gaiff ei ddysgu yn y ffordd gywir. Diolch i chi am ein addysgu ni mewn ffordd mor hygyrch.
|
|
Nosweithiau Gwener UCAN
Nosweithiau Gwener UCAN Ymunwch â ni am sesiynau sain a cherddoriaeth greadigol, drama, a gemau ar nosweithiau Gwener! Os ydych chi rhwng 7 a 25 oed, mae cyfleoedd cyffrous i weithio tuag at wobr/ Celt Arts Award gyda'n tîm gwych.
Nid yw'r sesiwn wythnosol hon yn ymwneud â datblygu sgiliau artistig yn unig—mae hefyd yn gyfle perffaith i ddal i fyny â hen ffrindiau a gwneud rhai newydd, a hynny i gyd wrth gael hwyl!
Am ragor o wybodaeth am fynychu, cysylltwch ag info@ucanproductions.org. Gallwch hefyd gael y wybodaeth ddiweddaraf trwy wirio ein sianeli cyfryngau cymdeithasol am y newyddion diweddaraf. Dewch i ymuno â'r hwyl!
Rydym yn hynod falch y bydd Alys yn ymuno â ni ar 10fed Ebrill!
Pryd: Dydd Gwener 10fed, 17eg a 24ain o Ebrill 5:00pm - 7:00pm Ble: Ysgol Optometreg a Gwyddorau'r Golwg, Prifysgol Caerdydd, Heol Maendy, Caerdydd CF24 4HQ Pwy: Croeso i bob aelod o UCAN
SASI Dewch i ymuno â'r tîm yn SightLife yng Nghaerdydd. Nod y sesiynau yw datblygu hyder, sgiliau lleisiol a hunan-eiriolaeth wrth wneud ffrindiau a chael hwyl. Rydym wrthi'n dechrau gweithio ar berfformiad ar gyfer cynhadledd Wales Eyecare Conference 2025.
Rydym yn gyffrous iawn y bydd Alys yn ymuno â ni ar 1af ac 8fed Ebrill!
Ar 15 Ebrill byddwn yn cyfarfod yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru i gymryd rhan mewn gweithdy sy'n gysylltiedig â'r cynhyrchiad newydd o Under Milk Wood. Cysylltwch â ni am fwy o fanylion.
Pryd: Dydd Mercher 1af, 8fed, 15fed, 22ain a 29ain o Ebrill 11.30am - 2.30pm Ble: SightLife, Jones Court, Womanby Street, Caerdydd CF10 1BR Pwy: Pobl 18+ oed
Clwb Maggie Er anrhydedd i aelod annwyl o Fwrdd UCAN, Dr. Margaret "Maggie" Woodhouse OBE, rydym yn eich gwahodd i ddigwyddiad hwyliog iawn, unwaith y mis! Cymerwch ran mewn gemau drama, gweithdai sain, celf a chrefft a sgiliau syrcas. Yn berffaith ar gyfer pobl ifanc â nam ar eu golwg ac anghenion ychwanegol, mae hwn yn le diogel a chroesawgar lle gall pawb fynegi eu hunain a chael hwyl. Dewch i ymuno â theulu Clwb Maggie! Y mis hwn byddwn yn creu crefftau Pasg.
Pryd: Dydd Sadwrn 11eg o Ebrill 2:00pm - 3:30pm Ble: Ysgol Optometreg a Gwyddor Golwg, Prifysgol Caerdydd, Heol Maendy, Caerdydd CF24 4HQ Pwy: Plant a phobl ifanc sydd â nam golwg ac anghenion ychwanegol a'u ffrindiau
|
UCAN Arlein
Mwynhewch a dysgwch sgiliau newydd trwy ddrama. Grŵp poblogaidd gyda llawer o gemau drama, gweithgareddau creadigol ac adrodd straeon. Mae'r sesiynau hyn yn gyfle i wneud ffrindiau newydd a chael llawer o hwyl trwy weithgareddau sy'n cynnwys creu straeon a byrfyfyr. Mae'r sesiynau hyn yn arbennig o fuddiol i'r rheiny sydd methu mynychu gweithgareddau wyneb yn wyneb neu sydd am ddysgu mwy am UCAN.
Pryd: Dydd Mawrth 7fed, 14eg, 21ain a 28ain o Ebrill 5:00pm - 6:30pm
Pwy: oedrannau 10-18
|
Os ydych wedi llenwi'r ffurflen gofrestru yn flaenorol, ni fydd angen i chi ei lenwi eto. Os ydych yn rhiant sydd eisiau i'ch plentyn ymuno â’n gweithgareddau hwyliog sy’n rhad ac am ddim, cwblhewch ein ffurflen gofrestru ar-lein drwy glicio yma! Os ydych yn 18 oed neu'n hŷn, cwblhewch y ffurflen drwy glicio yma.
|
PO Box 290 Cardiff CF11 1NF United Kingdom
|
|
|
|