Nosweithiau Gwener UCAN
Ymunwch â'n sesiynau creadigol ar nosweithiau Gwener a byddwch yn barod am gerddoriaeth, drama, adrodd straeon, byrfyfyrio, gemau a llawer iawn o chwerthin!
Mae'r sesiwn wythnosol yma yn gyfle i ddatblygu eich sgiliau artistig ac hefyd yn gyfle perffaith i ddal i fyny â hen ffrindiau a gwneud rhai newydd, a hynny i gyd wrth gael hwyl!
Pryd: Dydd Gwener 3ydd, 10fed, 17eg, 24ain a 31ain Gorffennaf 5:00yp - 7:00yh
Ble: Ysgol Optometreg a Gwyddorau’r Golwg, Prifysgol Caerdydd, Heol Maendy, Caerdydd CF24 4HQ
Pwy: Croeso i bob aelod o UCAN a'u ffrindiau
SASI
Dewch i ymuno â'r tîm yn SightLife yng Nghaerdydd. Nod y sesiynau yw datblygu hyder, sgiliau lleisiol a hunan-eiriolaeth wrth wneud ffrindiau a chael hwyl. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar sgetsys sain a straeon am ein profiadau fel pobl ddall a phobl â nam golwg.
Pryd: Dydd Mercher 1af, 8fed, 15fed, 22ain a 29ain Gorffennaf 11.30yb - 2.30yp
Ble: SightLife, Llys Jones, Stryd Womanby, Caerdydd CF10 1BR
Pwy: Pobl dros 18 oed
UCAN Collective
UCAN Collective yw ein grŵp creadigol ar gyfer artistiaid â nam golwg sydd eisiau datblygu eu sgiliau, cydweithio ag eraill ac archwilio gwahanol ffurfiau celf.
Mae pob sesiwn yn cael ei harwain gan berson creadigol proffesiynol gwahanol, gan roi cyfle i aelodau ddysgu sgiliau newydd, cydweithio ag artistiaid eraill a helpu i lunio prosiectau creadigol yn y dyfodol.
Pryd: Dydd Iau 2il, 16eg a 30ain Gorffennaf, 12:00yp - 3:00yp
Ble: Sight Life, Jones Court, Womanby Street, Caerdydd CF10 1BR
Pwy: Pobl creadigol â nam golwg.
Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â'r Collective, cysylltwch â ni i gael gwybod mwy.
Clwb Ar ôl Ysgol y Barri
Sesiwn sydd wastad yn hwyliog a chreadigol, sy'n cynnwys gemau drama, sain a cherddoriaeth. Dewch i ymuno!
Pryd: Dydd Mercher 8 Gorffennaf 4yp - 5yp
Ble: Ysgol Gymraeg Sant Baruc, Stryd Sant Baruc, Ffordd Y Mileniwm, Y Barri CF62 5AT
Pwy: Mae croeso i holl aelodau UCAN a'u ffrindiau
Clwb Maggie
Er anrhydedd i Aelod Bwrdd UCAN annwyl, Dr. Margaret "Maggie" Woodhouse OBE, rydym yn eich gwahodd i ddigwyddiad hwyliog iawn, unwaith y mis! Dewch i brofi gemau drama, gweithdai sain, celf a chrefft a sgiliau syrcas. Yn berffaith ar gyfer pobl ifanc â nam golwg ac anghenion ychwanegol, mae hwn yn lle diogel a chroesawgar lle gall pawb fynegi eu hunain a chael hwyl. Dewch i ymuno â theulu Clwb Maggie!
Mae sesiwn y mis hwn yn arbennig - Diwrnod Hwyl Haf - a fydd yn cynnwys perfformiadau gwych gan ein haelodau. Byddwn hefyd yn creu crefft cyffyrddol hufen iâ a lolipops iâ.
Pryd: Dydd Sadwrn 11eg Gorffennaf 2:00yp - 4:00yp
Ble: Ysgol Optometreg a Gwyddorau'r Golwg, Prifysgol Caerdydd, Heol Maendy, Caerdydd CF24 4HQ
Pwy: Pob aelod o UCAN