Half Term Creative Session We’ve got a special half term session coming up this May. Join Gwennan and Flo on Tuesday 26th May, 10.30am to 2.30pm at SightLife for a day of creative fun. The session will include music and tactile art activities, with plenty of opportunities to get involved, try something new and spend time together.
|
UCAN Collective Launches This May We’re excited to officially launch UCAN Collective, a brand new space for creatives aged 18+ to come together, explore ideas and develop original work shaped by lived experience.
This project is all about making. Across the coming months, we’ll be creating performances, experimenting with different art forms, and building work that could be shared at events, conferences or as digital pieces. It’s a chance to collaborate, develop your voice and be part of something from the ground up.
UCAN Collective is made possible thanks to funding from the Welsh Government Equalities and Inclusion programme, helping us create more opportunities for blind and visually impaired creatives to lead and shape their own work. Our first workshop takes place on Thursday 7th May, 12–3pm, and we’d love to see you there.
If you’re interested in getting involved or want to find out more, get in touch with Jake at jake@ucanproductions.org.
|
Introducing Music with Flo We took part in first aid training last week, and it was such a brilliant session. We’re excited to be launching something new this May, Music with Flo.
Although the project is brand new, many of you will already know Flo from her work with UCAN. She’s a musician, composer and creative practitioner who brings a brilliant mix of creativity, warmth and energy to every session. Flo is also training in music therapy, so creating supportive and inclusive spaces is at the heart of what she does.
Funded by TÅ· Cerdd, these workshops are designed for blind and partially sighted children and young people. Sessions will be hands-on and playful, with opportunities to explore a range of instruments, make music together and express yourself through sound. Music with Flo is all about breaking down barriers, building confidence and making sure everyone can enjoy being part of a creative musical space.
Workshops will take place in: Barry – Wednesday 13th May, 4:00–5:00pm Caerphilly – Thursday 14th May, 4:00–5:00pm
|
Introducing UCAN Thrive We’re really excited to launch a brand-new project, UCAN Thrive. This cross-generational project builds on everything UCAN has developed over the past 20 years, using creative workshops designed by blind and partially sighted young people, now being shared with older members of the sight loss community.
Through a mix of drama, movement and music, our young members will help lead relaxed, accessible sessions for older participants, creating space to connect, share experiences and have some fun together. The project is all about tackling isolation, boosting wellbeing and bringing people together through creativity.
UCAN Thrive will be delivered in partnership with SightCymru, helping us reach more people across South East Wales, and is funded by the Arts Council of Wales through their Arts, Health and Wellbeing grant. Sessions will take place this summer, and we’re currently inviting groups to get involved. If you’d like UCAN Thrive to visit your group, get in touch with Jane at jane@ucanproductions.org
|
Get Involved
See below for details of all of our regular activities. For more information on attending, please reach out to info@ucanproductions.org You can also stay updated by checking our social media channels for the latest updates and exciting news. Come join the fun!
|
UCAN Friday Nights Join our creative sessions on Friday nights and get ready for some music, drama, storytelling, improvisation, games and a whole lot of laughs! This weekly session isn't just about honing your artistic skills—it's also a perfect chance to catch up with old friends and make new ones, all while having fun!
When: Friday 1st, 8th, 15th, 22nd and 29th of May 5:00pm - 7:00pm Where: School of Optometry and Vision Science, Cardiff University, Maindy Rd, Cardiff CF24 4HQ Who: All UCAN participants and their friends are welcome
SASI Come and join the team at SightLife in Cardiff. Sessions aim to develop confidence, vocal and self-advocacy skills whilst making friends and having fun. We are currently working on audio sketches and stories of our experiences as blind and visually impaired people.
When: Wednesday 6th, 13th, 20th and 27th of May 11.30am - 2.30pm Where: SightLife, Jones Court, Womanby Street, Cardiff CF10 1BR Who: 18+ year olds
Maggie’s Club In honour of our beloved UCAN Board Member, Dr. Margaret "Maggie" Woodhouse OBE, we're inviting you to a super fun, once-a-month event! Dive into drama games, sound workshops, arts and crafts and circus skills. Perfect for young people with vision impairments and additional needs, this is a safe and welcoming space where everyone can express themselves and have fun. Come join the Maggies Club family! This month we will be creating springtime buzzy bees, using yellow and black - UCAN’s favourite colours!
When: Saturday 9th of May 2:00pm - 3:30pm Where: School of Optometry and Vision Science, Cardiff University, Maindy Rd, Cardiff CF24 4HQ Who: Children and young people who are vision impaired with additional needs and their friends
|
UCAN Online
Have fun and learn new skills through drama. A popular group with lots of drama games, creative and storytelling activities. These workshops are all about making new friends and having tons of fun through activities including storytelling and improvisation.These workshops are particularly beneficial for those who cannot attend face to face workshops or are keen to learn more about UCAN.
When: Tuesday 5th, 12th, 19th and 26th of May 5:00pm - 6:30pm Who: Visually impaired children and young people and their friends
|
If you’ve previously filled out the registration form you won’t need to do it again.
If you are a parent who would like your child to join some free and fun workshops, please complete our online registration form by clicking here!
If you are 18 years and older please complete the form by clicking here
|
Helo bawb,
Croeso i gylchlythyr mis Mai. Mae'n fis prysur, gyda llawer o gyhoeddiadau cyffrous a llawer mwy i ddod ar draws UCAN.
Ochr yn ochr â'n sesiynau rheolaidd, mae gennym brosiectau newydd yn cael eu lansio, gweithdai arbennig yn digwydd a llawer o gyfleoedd i gymryd rhan dros yr wythnosau nesaf. Mae'n gyfnod prysur a chreadigol i ni, ac rydym yn edrych ymlaen at weld llawer ohonoch chi yn ein sesiynau a’n digwyddiadau.
Diolch yn fawr iawn i'n haelodau, staff, gwirfoddolwyr a chefnogwyr sy'n gwneud popeth yn bosibl. Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau darllen ac yn dod o hyd i rywbeth o ddiddordeb y mis hwn.
Gwelwn ni chi cyn bo hir,
Tîm UCAN Productions
|
Sesiwn Greadigol Hanner Tymor
Mae gennym sesiwn hanner tymor arbennig ar y gweill ym mis Mai. Ymunwch â Gwennan a Flo ddydd Mawrth 26 Mai, 10.30yb i 2.30yp yn SightLife am ddiwrnod o hwyl greadigol. Bydd y sesiwn yn cynnwys cerddoriaeth a gweithgareddau celf cyffyrddol, gyda digon o gyfleoedd i gymryd rhan, rhoi cynnig ar rywbeth newydd a threulio amser gyda'n gilydd.
|
Lansio UCAN Collective ym mis Mai
Rydym yn gyffrous i lansio UCAN Collective yn swyddogol, lle newydd sbon i bobl greadigol 18 oed a hÅ·n ddod at ei gilydd, archwilio syniadau a datblygu gwaith gwreiddiol wedi'i lunio gan brofiad byw.
Mae'r prosiect hwn i gyd yn ymwneud â chreu. Yn ystod y misoedd nesaf, byddwn yn creu perfformiadau, yn arbrofi gyda gwahanol ffurfiau celf, ac yn adeiladu gwaith gall ei rannu mewn digwyddiadau, cynadleddau neu fel darnau digidol. Mae'n gyfle i gydweithio, datblygu eich llais a bod yn rhan o rywbeth newydd o'r dechrau.
Mae UCAN Collective wedi'i wneud yn bosibl gyda diolch i gyllid rhaglen Cydraddoldeb a Chynhwysiant Llywodraeth Cymru, bydd yn ein helpu i greu mwy o gyfleoedd i bobl greadigol dall â sydd â nam golwg i arwain a llunio eu gwaith eu hunain.
Cynhelir ein gweithdy cyntaf ddydd Iau 7fed Mai, 12–3yp, a byddem wrth ein bodd eich gweld chi yno.
|
Yn Cyflwyno Cerdd gyda Flo
Rydym yn gyffrous i lansio rhywbeth newydd ym mis Mai, Cerdd gyda Flo. Er bod y prosiect yn newydd sbon, bydd llawer ohonoch eisoes yn adnabod Flo o'i gwaith gydag UCAN. Mae hi'n gerddor, cyfansoddwr ac ymarferydd creadigol sy'n dod â chymysgedd gwych o greadigrwydd, cynhesrwydd ac egni i bob sesiwn. Mae Flo hefyd yn hyfforddi mewn therapi cerddoriaeth, felly mae creu mannau cefnogol a chynhwysol wrth wraidd yr hyn y mae hi'n ei wneud.
Wedi'u hariannu gan TÅ· Cerdd, mae'r gweithdai hyn wedi'u cynllunio ar gyfer plant a phobl ifanc dall a rhannol ddall. Bydd y sesiynau'n ymarferol ac yn chwareus, gyda chyfleoedd i archwilio amrywiaeth o offerynnau, creu cerddoriaeth gyda'ch gilydd a mynegi eich hun trwy sain.
Mae Cerdd gyda Flo yn ymwneud â chwalu rhwystrau, meithrin hyder a sicrhau y gall pawb fwynhau bod yn rhan o ofod cerddorol creadigol. Cynhelir y gweithdai yn:
Y Barri – Dydd Mercher 13eg Mai, 4:00–5:00yp Caerffili – Dydd Iau 14eg Mai, 4:00–5:00yp
|
Cyflwyno UCAN Thrive
Rydym yn gyffrous iawn i lansio prosiect newydd sbon, UCAN Thrive. Mae'r prosiect traws-genhedlaeth hwn yn adeiladu ar bopeth y mae UCAN wedi'i ddatblygu dros yr 20 mlynedd diwethaf, gan ddefnyddio gweithdai creadigol a gynlluniwyd gan bobl ifanc ddall a rhannol ddall, a’u rhannu ag aelodau hŷn o'r gymuned nam golwg.
Trwy gymysgedd o ddrama, symudiad a cherddoriaeth, bydd ein haelodau ifanc yn helpu i arwain sesiynau hamddenol, hygyrch i gyfranogwyr hŷn, gan greu lle i gysylltu, rhannu profiadau a chael hwyl gyda'n gilydd. Mae'r prosiect yn ymwneud â mynd i'r afael ag unigedd, hybu lles a dod â phobl ynghyd trwy greadigrwydd. Bydd UCAN Thrive yn cael ei gyflwyno mewn partneriaeth â SightCymru, a fydd yn ein helpu i gyrraedd mwy o bobl ledled De-ddwyrain Cymru, ac fe'i hariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru trwy eu grant Celfyddydau, Iechyd a Llesiant. Bydd sesiynau'n digwydd yn yr haf, ac rydym yn awr yn gwahodd grwpiau i gymryd rhan.
|
CYMERYD RHAN Gweler isod fanylion ein holl weithgareddau rheolaidd. Am ragor o wybodaeth am fynychu, cysylltwch ag info@ucanproductions.org Gallwch hefyd gael y wybodaeth ddiweddaraf a newyddion cyffrous trwy edrych ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol. Dewch i ymuno â'r hwyl!
|
Nosweithiau Gwener UCAN
Ymunwch â'n sesiynau creadigol ar nosweithiau Gwener a pharatowch ar gyfer cerddoriaeth, drama, adrodd straeon, byrfyfyrio, gemau a llawer o chwerthin! Mae'n gyfle perffaith i ddatblygu eich sgiliau artistig, i ddal i fyny â hen ffrindiau a gwneud rhai newydd, a chael hwyl!
Pryd: Dydd Gwener 1af, 8fed, 15fed, 22ain a 29ain o Fai 5:00yp - 7:00yh Ble: Ysgol Optometreg a Gwyddorau'r Golwg, Prifysgol Caerdydd, Heol Maendy, Caerdydd CF24 4HQ Pwy: Croeso i bob aelod UCAN a'u ffrindiau
SASI Dewch i ymuno â'r tîm yn SightLife yng Nghaerdydd. Nod y sesiynau yw datblygu hyder, sgiliau lleisiol a hunan-eiriolaeth wrth wneud ffrindiau a chael hwyl. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar sgetsys sain a straeon am ein profiadau fel pobl ddall a phobl â nam golwg.
Pryd: Dydd Mercher 6ed, 13eg, 20fed a 27ain o Fai 11.30yb - 2.30yp Ble: SightLife, Jones Court, Womanby Street, Caerdydd CF10 1BR Pwy: Pobl 18+ oed
Clwb Maggie Er anrhydedd i aelod annwyl o Fwrdd UCAN, Dr. Margaret "Maggie" Woodhouse OBE, rydym yn eich gwahodd i ddigwyddiad hwyliog iawn, unwaith y mis! Bydd gemau drama, gweithdai sain, celf a chrefft a sgiliau syrcas. Yn berffaith ar gyfer pobl ifanc â nam golwg ac anghenion ychwanegol, mae hwn yn le diogel a chroesawgar lle gall pawb fynegi eu hunain a chael hwyl. Dewch i ymuno â theulu Clwb Maggie! Y mis yma byddwn yn creu gwenyn bywiog y gwanwyn, gan ddefnyddio melyn a du - hoff liwiau UCAN!
Pryd: Dydd Sadwrn 9fed o Fai 2:00yp - 3:30yp Ble: Ysgol Optometreg a Gwyddorau'r Golwg, Prifysgol Caerdydd, Heol Maendy, Caerdydd CF24 4HQ Pwy: Plant a phobl ifanc sydd â nam golwg ac anghenion ychwanegol a'u ffrindiau
|
UCAN Arlein
Mwynhewch a dysgwch sgiliau newydd drwy ddrama. Grŵp poblogaidd gyda llawer o gemau drama, gweithgareddau creadigol ac adrodd straeon. Dewch i wneud ffrindiau newydd a chael llwyth o hwyl drwy weithgareddau gan gynnwys adrodd straeon a byrfyfyr. Mae'r gweithdai hyn yn arbennig o fuddiol i'r rhai na allant fynychu gweithdai wyneb yn wyneb neu sy'n awyddus i ddysgu mwy am UCAN. Cysylltwch ag info@ucanproductions.org am ragor o wybodaeth
Pryd: Dydd Mawrth 5ed, 12fed, 19eg a 26ain o Fai 5:00yp - 6:30yh
Pwy: Plant a phobl ifanc â nam golwg a'u ffrindiau
|
Os ydych wedi llenwi'r ffurflen gofrestru yn flaenorol, ni fydd angen i chi ei lenwi eto. Os ydych yn rhiant sydd eisiau i'ch plentyn ymuno â’n gweithgareddau hwyliog sy’n rhad ac am ddim, cwblhewch ein ffurflen gofrestru ar-lein drwy glicio yma! Os ydych yn 18 oed neu'n hŷn, cwblhewch y ffurflen drwy glicio yma.
|
PO Box 290 Cardiff CF11 1NF United Kingdom
|
|
|
|