UCAN Collective Performs at Sight Cymru’s AGM
We had a brilliant time performing at Sight Cymru’s Annual Conference and AGM. Our UCAN Collective shared a new piece exploring technology for blind and visually impaired people, including the growing role of artificial intelligence.
We have received some lovely feedback about the performance and cannot wait to continue creating more original theatre together through the UCAN Collective project.
|
Maggie's Club - change of venue
Please note that this month's Maggie's Club on Saturday 3rd October will be held at Cathays Community Centre. More details below.
|
Music with Flo
Music with Flo is coming back! We're very excited that there will be more sessions for children and young people in Barry and Caerphilly over the next few months.
Come along for relaxed and creative music sessions full of fun, exploration and music making.
|
SASI with Allie John
We are so pleased to announce that Allie John will be leading our SASI session on 28 October at SightLife. Allie is a dear friend of UCAN, and we're very excited to see what creative fun she has planned for us!
Allie is a Creative Producer with a background in theatre, events management and marketing, and has worked on many UCAN projects over the years.
The session is open for anyone over 18 years old. Hope to see you there!
|
UCAN Academy
UCAN Academy, our award-winning ALN (additional learning needs) creative learning delivery project, is back in schools this term, picking up where we left off and building on last year's momentum - and we've been welcomed into the amazing new Woodlands building in Fairwater!
UCAN Academy works in partnership with Cardiff Council's Curriculum Team and Trinity College London, grown from a pilot into a city-wide delivery model across ALN school settings, delivering accredited Arts Awards alongside our trademark creative music, sound and drama activities!
|
Get Involved
See below for details of our regular activities taking place this month. For more information on attending, please email
info@ucanproductions.org. You can also check our social media channels for the latest updates and news. Come and join the fun!
|
Maggie’s Club
This month’s Maggie’s Club will be held at Cathays Community Centre.
In honour of our beloved UCAN Board Member, Dr. Margaret "Maggie" Woodhouse OBE, we're inviting you to a super fun, once-a-month event! Dive into drama games, sound workshops, arts and crafts and circus skills. Perfect for young people with vision impairments and additional needs, this is a safe and welcoming space where everyone can express themselves and have fun. Come join the Maggies Club family!
We’ve got a brilliant afternoon planned with sound, circus skills, tactile art (creating hedgehogs!), warm-up activities and games!
Please note there is no dedicated car park, but on-street parking and drop-off options are available nearby.
When: Saturday 3rd October 2:00pm - 3:30pm Where: Cathays Community Centre’s Bingo Hall, 36–38 Cathays Terrace, Cardiff, CF24 4HX Who: All UCAN members
UCAN Friday Nights
Join our creative sessions on Friday nights and get ready for some music, drama, storytelling, improvisation, games and a whole lot of laughs!
This weekly session isn't just about honing your artistic skills—it's also a perfect chance to catch up with old friends and make new ones, all while having fun!
When: Friday 2, 9, 16, 23 and 30 October, 5:00pm–7:00pm Where: School of Optometry and Vision Science, Cardiff University, Maindy Road, Cardiff CF24 4HQ Who: All UCAN participants and their friends are welcome
SASI Come and join the team at SightLife in Cardiff. Sessions aim to develop confidence, vocal and self-advocacy skills whilst making friends and having fun. We are currently working on audio sketches and stories of our experiences as blind and visually impaired people.
We are very pleased that the fantastic Allie John will be running a creative session for us on Wednesday 28 October. It will be great to work with her again.
When: Wednesday 7, 14, 21 and 28 October, 11:30am–2:30pm Where: SightLife, Jones Court, Womanby Street, Cardiff CF10 1BR Who: Ages 18+
|
UCAN Online (Zoom)
Have fun and learn new skills in this weekly online session. A popular group with lots of drama games, creative and storytelling activities. These workshops are all about making new friends and having tons of fun, and are particularly beneficial for those who cannot attend face-to-face workshops or are keen to learn more about UCAN. Please contact info@ucanproductions.org for more information.
When: Tuesday 6, 13, 20 and 27 October, 5:00pm–6:30pm Who: Visually impaired children and young people and their friends
|
Please note: If you’ve previously completed the registration form, you won’t need to do it again.
|
Helo bawb,
Croeso i gylchlythyr mis Hydref.
Daeth mis Medi i ben ar nodyn uchel gyda pherfformiad gan UCAN Collective yng Nghynhadledd Flynyddol a Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol Sight Cymru – ceir rhagor o fanylion isod. Cawsom adborth gwych ac rydym yn gyffrous i barhau i ddatblygu mwy o waith theatr gwreiddiol gyda’n gilydd.
Mae llawer yn digwydd yn ystod mis Hydref hefyd. Rydym yn datblygu mwy o weithdai UCAN Thrive ac yn parhau i archwilio sut y gall dull creadigol a hygyrch UCAN helpu pobl i feithrin hyder, mynegi eu hunain a chysylltu ag eraill.
Mae UCAN Academy hefyd yn mynd yn dda iawn. Rydym wrth ein bodd yn gweithio mewn ysgolion, ac mae bob amser yn rhoi boddhad mawr i helpu pobl ifanc i ddarganfod eu creadigrwydd.
Yn ogystal â’r gwaith hwn, mae ein gweithdai rheolaidd yn parhau drwy gydol mis Hydref, gan ddod â’n haelodau ynghyd ar gyfer mwy o greadigrwydd, cyfeillgarwch a hwyl.
Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau cylchlythyr y mis hwn ac edrychwn ymlaen at weld llawer ohonoch yn fuan.
Tîm UCAN Productions
|
NEWYDDION A DIWEDDARIADAU |
UCAN Collective yn Perfformio yng Nghyfarfod Blynyddol Sight Cymru
Cawsom amser gwych yn perfformio yng Nghynhadledd a Chyfarfod Blynyddol Sight Cymru.
Rhannodd ein grŵp, UCAN Collective, ddarn newydd yn archwilio technoleg ar gyfer pobl ddall a phobl â nam ar eu golwg, gan gynnwys rôl gynyddol deallusrwydd artiffisial. Rydym wedi derbyn adborth hyfryd am y perfformiad ac yn edrych ymlaen yn eiddgar at barhau i greu mwy o theatr wreiddiol gyda’n gilydd drwy brosiect UCAN Collective.
|
Clwb Maggie – newid lleoliad
Sylwch y bydd Clwb Maggie ar ddydd Sadwrn 3 Hydref yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Gymunedol Cathays. Mae rhagor o fanylion isod.
|
Cerddoriaeth gyda Flo
Mae Cerddoriaeth gyda Flo yn dychwelyd! Rydym yn hynod gyffrous y bydd mwy o sesiynau i blant a phobl ifanc yn y Barri ac yng Nghaerffili dros y misoedd nesaf. Ymunwch â Flo am sesiynau cerddoriaeth hamddenol a chreadigol sy'n llawn hwyl, archwilio a chreu.
|
SASI gydag Allie John
Rydym mor falch o gyhoeddi y bydd Allie John yn arwain ein sesiwn SASI ar 28 Hydref yn SightLife. Mae Allie yn ffrind annwyl i UCAN, ac rydym yn gyffrous iawn i weld pa hwyl greadigol sydd ganddi ar y gweill i ni!
Mae Allie yn Gynhyrchydd Creadigol gyda chefndir ym myd y theatr, rheoli digwyddiadau a marchnata, ac mae hi wedi gweithio ar lawer o brosiectau UCAN dros y blynyddoedd.
Mae'r sesiwn yn agored i unrhyw un dros 18 oed. Gobeithio eich gweld chi yno!
|
UCAN Academy
Mae UCAN Academy – ein prosiect gwobrwyedig sy'n darparu dysgu creadigol ar gyfer dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) – yn ôl mewn ysgolion y tymor hwn. Rydym yn parhau i adeiladu ar y momentwm a grëwyd y llynedd – ac rydym wedi cael croeso cynnes i adeilad newydd anhygoel Woodlands yn y Tyllgoed! Mae UCAN Academy yn gweithio mewn partneriaeth â Thîm Cwricwlwm Cyngor Caerdydd a Trinity College London.
Mae wedi tyfu o fod yn brosiect peilot i fod yn fodel sy'n gweithredu ledled y ddinas mewn ysgolion ar gyfer dysgwyr ag ADY, gan gynnig cymwyster achrededig 'Arts Award' ochr yn ochr â'n gweithgareddau cerddoriaeth greadigol, sain a drama!
|
CYMERYD RHAN Gweler isod am fanylion ein gweithgareddau rheolaidd sy'n digwydd y mis hwn. I gael rhagor o wybodaeth am sut i fynychu, anfonwch e-bost at info@ucanproductions.org. Gallwch hefyd edrych ar ein cyfryngau cymdeithasol am y newyddion diweddaraf. Dewch i ymuno â'r hwyl!
|
Clwb Maggie
Cynhelir Clwb Maggie y mis hwn yng Nghanolfan Gymunedol Cathays.
Er anrhydedd i aelod annwyl o Fwrdd UCAN, Dr Margaret "Maggie" Woodhouse OBE, rydym yn eich gwahodd i ddigwyddiad hynod hwyliog sy'n cael ei gynnal unwaith y mis! Mwynhewch gemau drama, gweithdai sain, celf a chrefft a sgiliau syrcas. Yn berffaith ar gyfer pobl ifanc â nam ar eu golwg ac anghenion ychwanegol, mae hwn yn sesiwn diogel a chroesawgar lle gall pawb fynegi eu hunain a chael hwyl. Dewch i ymuno â theulu Clwb Maggie! Mae gennym brynhawn gwych wedi'i gynllunio, yn cynnwys sain, sgiliau syrcas, celf gyffyrddadwy (creu draenogod!), a gemau!
Sylwch nad oes maes parcio, ond mae modd parcio ar y stryd ac mae mannau gollwng teithwyr ar gael gerllaw.
Pryd: Dydd Sadwrn 3 Hydref, 2:00yp - 3:30yp Ble: Neuadd Bingo Canolfan Gymunedol Cathays, 36–38 Cathays Terrace, Caerdydd, CF24 4HX Pwy: Pob aelod o UCAN
Nosweithiau Gwener UCAN
Dewch i ymuno â'n sesiynau creadigol ar nosweithiau Gwener ar gyfer hwyl gyda cherddoriaeth, drama, adrodd straeon, byrfyfyrio, gemau a llawer o chwerthin! Mae'r sesiwn wythnosol hon yn gyfle i ddatblygu eich sgiliau artistig ac mae hefyd yn gyfle gwych i ailgysylltu â hen ffrindiau a gwneud rhai newydd, a hynny wrth gael hwyl!
Pryd: Dydd Gwener 2, 9, 16, 23 a 30 Hydref, 5:00yp – 7:00yh Ble: Ysgol Optometreg a Gwyddorau'r Golwg, Prifysgol Caerdydd, Maindy Road, Caerdydd CF24 4HQ Pwy: Croeso i bob aelod o UCAN a'u ffrindiau
SASI
Dewch i ymuno â'r tîm yn SightLife yng Nghaerdydd. Nod y sesiynau yw datblygu hyder, sgiliau lleisiol a sgiliau hunan-eiriolaeth, tra'n gwneud ffrindiau a chael hwyl. Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio ar sgetsys sain a straeon am ein profiadau fel pobl ddall a phobl â nam ar eu golwg.
Rydym yn falch iawn y bydd yr anhygoel Allie John yn cynnal sesiwn greadigol i ni ar ddydd Mercher 28 Hydref. Mi fydd yn wych gweithio gyda hi eto.
Pryd: Dydd Mercher 7, 14, 21 a 28 Hydref, 11:30yb – 2:30yp Ble: SightLife, Jones Court, Womanby Street, Caerdydd CF10 1BR Pwy: Oedran 18+
|
UCAN Ar-lein (Zoom)
Cewch hwyl a dysgu sgiliau newydd yn ein grŵp wythnosol ar-lein. Grŵp poblogaidd sy'n cynnwys llawer o gemau drama, gweithgareddau creadigol ac adrodd straeon. Nod y gweithdai hyn yw gwneud ffrindiau newydd a chael llawer iawn o hwyl; maent yn arbennig o fuddiol i'r rhai na allant fynychu gweithdai wyneb yn wyneb neu sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am UCAN.
Pryd: Dydd Mawrth 6, 13, 20 a 27 Hydref, 5:00yp–6:30yh Pwy: Plant a phobl ifanc â nam ar eu golwg a'u ffrindiau
|
Sylwch: Os ydych chi eisoes wedi llenwi’r ffurflen gofrestru, nid oes angen i chi ei wneud eto.
|
PO Box 290 Cardiff CF11 1NF United Kingdom
|
|
|
|